Datganiad Hygyrchedd ar gyfer ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r wefan GOV.UK ehangach. Mae yna ddatganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer y prif wefan GOV.UK

Mae’r dudalen hon dim ond yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ ar gael yn https://tell-us-someone-died.dwp.gov.uk.

Defnyddio’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym am i gymaint o bobl ȃ phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau
  • chwyddo mewn i hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml ȃ phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn hawdd i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Beth i wneud os ydych yn cael problemau defnyddio’r gwasanaeth hwn

Os ydych yn cael problemau defnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni:

Fel rhan o ddarparu’r gwasanaeth hwn, efallai byddwn angen gyrru negeseuon neu ddogfennau i chi. Gofynnwn i chi sut rydych am gael negeseuon neu ddogfennau wedi’u hanfon atoch, ond cysylltwch â ni os ydych eu hangen mewn fformat gwahanol. Fel enghraifft, print bras, recordiad sain neu braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn darganfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch roi gwybod am broblem hygyrchedd (agor mewn tab newydd).

Polisi gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Meddalweddau Symudol) (Rhif. 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych yn fodlon gydag ein hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r:

Gwybodaeth technegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Meddalweddau Symudol) (Rhif. 2) 2018.

Mae’r gwasanaeth hwn yn gwbl gydymffurfio â ersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Sut y gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn

Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ym mis Mehefin 2023. Cafodd ei wirio am gydymffurfiaeth â WCAG 2.1 AA gan ddefnyddio profion awtomataidd a gyda llaw. Cynhaliwyd y profion gan DWP-Digital.

Paratowyd y dudalen hon ym mis Medi 2023.