Cyn i chi ddechrau

Gwiriwch fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch

Bydd angen:

  • eich cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith
  • enw a dyddiad marwolaeth y person a fu farw
  • enw a chyfeiriad yr ysbyty, y cartref gofal neu'r hosbis os gwnaethant farw yno
  • Rhif Yswiriant Gwladol neu ddyddiad geni'r priod sy'n goroesi
  • manylion y perthynas agosaf
  • manylion yr unigolyn neu'r cwmni sy'n delio â'r ystâd (eiddo, meddiannau ac arian)

Mae hefyd yn help os gallwch ddarparu rhif Yswiriant Gwladol y person sydd wedi marw. Mae'n ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i sefydliadau eu paru â’u cofnodion.

Gan ddibynnu ar bwy rydych eisiau dweud wrthynt, efallai y bydd angen:

  • eu rhif pasbort a'u tref enedigol (i ganslo pasbort Prydeinig)
  • rhif eu trwydded yrru (i ganslo trwydded)
  • rhifau cofrestru cerbyd unrhyw gerbydau yr oeddent yn berchen arnynt i dynnu eu henw fel y ceidwad cofrestredig a chanslo treth y cerbyd (bydd angen trethu'r cerbyd eto ar unwaith cyn cael ei ddefnyddio)
  • enw eu cyngor lleol a pha wasanaethau yr oeddent yn eu cael, fel Budd-dal Tai neu ostyngiad Treth Gyngor
  • eu rhif Bathodyn Glas (dewisol) i ganslo Bathodyn Glas
  • gwybod a oeddent yn cael budd-daliadau, credydau treth neu Bensiwn y Wladwriaeth fel y gallwn hysbysu'r adran gywir

Bydd angen i chi ddarparu rhif Yswiriant Gwladol y person a fu farw, os oedd yn cael arian neu’n talu i mewn i’r cynlluniau canlynol:

  • Pensiynau’r GIG ar gyfer staff y GIG yng Nghymru a Lloegr
  • Asiantaeth Pensiynau Cyhoeddus yr Alban ar gyfer Athrawon a/neu'r GIG
  • Asiantaeth Pensiynau Cyhoeddus yr Alban Heddlu a/neu Ymladdwyr Tân
  • Cronfa Diogelu Pensiynau a/neu Gynllun Cymorth Ariannol
  • Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)

Os oes angen i chi stopio ar unrhyw adeg

Ni allwch arbed eich atebion a dod yn ôl yn ddiweddarach. Mae angen i chi gwblhau'r gwasanaeth ar yr un pryd, felly gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch o'ch blaen.

Nid oes terfyn amser i gwblhau Dywedwch Wrthym Unwaith. Ond os byddwch yn gadael y sgrin am fwy nag 20 munud, byddwn yn dileu eich atebion i ddiogelu eich gwybodaeth.

Awdurdod a chaniatâd

Ai chi yw'r perthynas agosaf neu'r person sy'n delio â'r ystâd, ac os nad felly, a oes gennych yr awdurdod i weithredu ar eu rhan?
Cysylltwch â ni am help

Ffôn

0800 085 7308

Ffôn Testun: 0800 141 2218
Gwasanaeth Video Relay ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (yn agor mewn tab newydd)

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:00am i 6:00pm.

E-bost

E-bostiwch ni ar tellusonce.communications@dwp.gov.uk

Sesiwn wedi'i amseru allan

Bydd eich sesiwn yn cael ei amseru allan mewn 20 munud os na fydd unrhyw weithgaredd yn cymryd lle.