Cyn i chi ddechrau

Gwnewch yn siŵr bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau. Ni allwch gadw a dod yn ôl eto.

Er mwyn cadw'ch gwybodaeth yn ddiogel, os byddwch yn oedi ac yn peidio â mewnbynnu unrhyw beth am fwy na 20 munud bydd eich atebion yn cael eu dileu a bydd angen i chi ddechrau eto. Gallwch ymestyn eich amser cyn i hyn ddigwydd.

Os oes angen i chi fynd yn ôl i dudalen gynharach, bydd angen i chi ddefnyddio'r dolenni cefn ar frig pob tudalen yn y gwasanaeth hwn. Ni fydd botwm nôl eich porwr gwe yn gweithio.

Pan fyddwch wedi gorffen, byddwch yn gallu cadw neu argraffu rhestr o'r sefydliadau rydych wedi dweud wrthynt.

Gwiriwch fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch

Bydd angen:

  • eich cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith
  • enw a dyddiad marwolaeth y person a fu farw
  • enw a chyfeiriad yr ysbyty, y cartref gofal neu'r hosbis os gwnaethant farw yno
  • Rhif Yswiriant Gwladol neu ddyddiad geni'r priod sy'n goroesi
  • manylion y perthynas agosaf
  • manylion yr unigolyn neu'r cwmni sy'n delio â'r ystâd (eiddo, meddiannau ac arian)

Mae hefyd yn help os gallwch ddarparu rhif Yswiriant Gwladol y person sydd wedi marw. Mae'n ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i sefydliadau eu paru â’u cofnodion.

Gan ddibynnu ar bwy rydych eisiau dweud wrthynt, efallai y bydd angen:

  • eu rhif pasbort a'u tref enedigol (i ganslo pasbort Prydeinig)
  • rhif eu trwydded yrru (i ganslo trwydded)
  • rhifau cofrestru cerbyd unrhyw gerbydau yr oeddent yn berchen arnynt i dynnu eu henw fel y ceidwad cofrestredig a chanslo treth y cerbyd (bydd angen trethu'r cerbyd eto ar unwaith cyn cael ei ddefnyddio)
  • enw eu cyngor lleol a pha wasanaethau yr oeddent yn eu cael, fel Budd-dal Tai neu ostyngiad Treth Gyngor
  • eu rhif Bathodyn Glas (dewisol) i ganslo Bathodyn Glas
  • gwybod a oeddent yn cael budd-daliadau, credydau treth neu Bensiwn y Wladwriaeth fel y gallwn hysbysu'r adran gywir

Bydd angen i chi ddarparu rhif Yswiriant Gwladol y person a fu farw, os oedd yn cael arian neu’n talu i mewn i’r cynlluniau canlynol:

  • Pensiynau’r GIG ar gyfer staff y GIG yng Nghymru a Lloegr
  • Asiantaeth Pensiynau Cyhoeddus yr Alban ar gyfer Athrawon a/neu'r GIG
  • Asiantaeth Pensiynau Cyhoeddus yr Alban Heddlu a/neu Ymladdwyr Tân
  • Cronfa Diogelu Pensiynau a/neu Gynllun Cymorth Ariannol
  • Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)

Cyn rhoi manylion y perthynas agosaf neu'r person neu'r cwmni sy'n delio â'r ystad, bydd angen eu caniatâd arnoch.

Awdurdod a chaniatâd

Ai chi yw'r perthynas agosaf neu'r person sy'n delio â'r ystâd, ac os nad felly, a oes gennych yr awdurdod i weithredu ar eu rhan?
Cysylltwch â ni am help

Ffôn

0800 085 7308

Ffôn Testun: 0800 141 2218
Gwasanaeth Video Relay ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (yn agor mewn tab newydd)

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:00am i 6:00pm.

E-bost

E-bostiwch ni ar tellusonce.communications@dwp.gov.uk

Sesiwn wedi'i amseru allan

Bydd eich sesiwn yn cael ei amseru allan mewn 20 munud os na fydd unrhyw weithgaredd yn cymryd lle.